Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 18 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 14:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_400002_18_10_2012&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Craffu ar y gyllideb |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Mark Drakeford Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alun Davies, Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Rob Hunter, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol Dan Crook, WWF Cymru Gareth Cunningham, RSPB Cymru Beth Henshall, Ymddiriedolaethau Natur Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Nia Seaton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies a Julie James ar gyfer y cyfarfod cyfan a gan William Powell a David Rees ar gyfer y sesiwn prynhawn. Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Keith Davies a Mark Drakeford yn dirprwyo ar ran David Rees.
2. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
2.1 Bu’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu dadansoddiad o’r cam gorfodi mewn perthynas â’r gyfran o’r gyllideb a gaiff ei gwario ar erlyn.
3. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
3.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan aelodau o’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r ffigur ‘llyfr gwyrdd’ ar gyfer materion systemau technoleg gwybodaeth y bydd yr un corff amgylcheddol newydd yn eu hetifeddu.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 5.
5. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - trafod y dystiolaeth
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a pha faterion yr oedd am ddwyn i sylw’r Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad.
5.2 Cafodd y Pwyllgor egwyl rhwng 12.00 ac 13.00.
6. Ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru - Tystiolaeth lafar gan Cyswllt Amgylchedd Cymru
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i’r goblygiadau i Gymru yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.
6.2 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar y polisi morol yng Nghymru.
6.3 Cytunodd Dan Crook i rannu gyda’r Pwyllgor yr adroddiad ar yr astudiaeth a gomisiwynwyd gan y WWF ar gyd-leoli parthau cadwraeth morol datblygiadau ynni adnewyddadwy.
7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar 24 Hydref.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.